Ble ydym ni’n mynd?

Bydd gwybodaeth a gesglir trwy broses y Cynllun Creu Lleoedd yn cael ei defnyddio i lywio datblygiad cynlluniau creu lleoedd ar gyfer 7 prif dref Sir y Fflint: Bwcle, Cei Connah, Y Fflint, Treffynnon, Yr Wyddgrug, Queensferry a Shotton.

Bydd y cynlluniau hyn yn benllanw gwaith dadansoddi holl ganlyniadau’r ymgynghoriad, dadansoddi data ac adborth a dderbyniwyd yn ogystal â’r wybodaeth a gyfnewidiwyd rhwng Cyngor Sir y Fflint a’i bartneriaid gan sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol sy’n fudd-ddeiliaid allweddol yng nghanol ein trefi.  Bydd cynllun pob tref yn darparu manylion am beth yw’r blaenoriaethau a’r cyfleoedd cysylltiedig sydd ar gael. 
Connahs Quay High Street
Yn dilyn datblygu’r Cynllun Creu Lleoedd, bydd yr ystod o flaenoriaethau’n llywio cynllun gweithredu a gweledigaeth ar gyfer pob canol tref. Bydd y cynllun gweithredu 1-2 flynedd yn cael ei ddarparu gan ystod o bobl a sefydliadau i annog newid cadarnhaol.
Connahs Quay High Street

Gellir ond cyflawni’r cynlluniau gweithredu os ydynt wedi’u cydlynu a’u halinio ar draws sefydliadau sydd wedi buddsoddi a’u mandadu i ddarparu effaith gadarnhaol ar drefi Sir y Fflint. 

Mae’r cynlluniau gweithredu’n brosiectau partneriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint; y sectorau preifat a chyhoeddus a’n trigolion. 

Holywell High Street
Mae Sir y Fflint yn cydlynu datblygiad y cynlluniau ar ran ystod o bartneriaid, sy’n seiliedig ar angen lleol bob canol tref yn Sir y Fflint. Bydd darparu a chyflawni’r cyfle gorau ohonynt yn ymgais gydweithredol gan bawb sy’n cymryd rhan ac mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i gydweithio i ddatblygu a darparu Cynlluniau Creu Lleoedd.
Mae’r cynlluniau’n cael eu darparu gan bartneriaid allweddol wedi’u dwyn ynghyd mewn dau weithgor: y grwpiau lleoedd a phobl. Mae rolau’r grwpiau’n cynnwys llywio, dylanwadu, cynghori, herio, cefnogi a chydlynu datblygiad y trefi i gyflawni’r camau gweithredu yn y cynlluniau. Mae pob grŵp yn cael ei gadeirio gan bartner arweiniol ac yn cynnwys unigolion perthnasol, sefydliadau, partneriaid a chynrychiolwyr y Cyngor.